Nodyn Preifatrwydd Cylch Meithrin

Mae’r Cylch Meithrin wedi ymrwymo i warchod preifatrwydd unigolion a diogelwch eich gwybodaeth bersonol.

Fel rhan o’n gweithgareddau pob dydd, mae’r Cylch Meithrin yn prosesu data personol.  Y Cylch Meithrin yw’r rheolwr data, ac yn gyfrifol am eich data personol.  Mae’r Cylch Meithrin wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch eich data a phrosesu teg ohono.

I’r perwyl hwn, mae’r Cylch Meithrin yn cofrestru yn flynyddol gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG) (Information Commissioner’s Office (ICO)) fel ‘rheolwr data’.

Mae’r nodyn preifatrwydd hwn yn disgrifio sut a pam rydym yn defnyddio unrhyw ddata personol rydym yn ei gasglu.

Mae’r Cylch Meithrin wedi penodi ‘Pencampwr Data’ sef unigolyn o fewn y sefydliad sydd â chyfrifoldeb am ddiogelwch data.  Os ydych am ymarfer unrhyw un o’ch hawliau, yn unol â'r Rheoliadau Gwarchod Data Cyffredinol (GDPR), cysylltwch gyda Pencampwr Data’r Cylch Meithrin gan ddefnyddio manylion cyswllt arferol y cylch. 

Newidiadau i’r Nodyn Preifatrwydd

Diweddarwyd y nodyn preifatrwydd hwn ar y 11eg o Fehefin 2018, ac fe fydd yn cael ei ddiweddaru o dro i dro, yn enwedig os oes angen cydymffurfio gydag unrhyw newidiadau deddfwriaethol.

Fe fydd y fersiwn diweddaraf yn cael ei osod ar wefan Mudiad Meithrin yma http://www.meithrin.cymru/diogelwch-data/cy/c499/. Fydd angen ymweld â’r wefan yn rheolaidd i weld y fersiwn diweddaraf.

Eich dyletswydd i’n hysbysu o unrhyw newidiadau

Mae’n bwysig bod y manylion y mae’r Cylch Meithrin yn cadw amdanoch chi, neu eich plentyn, yn gywir ac yn gyfredol.  Felly, a wnewch chi sicrhau eich bod yn rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i’ch data personol yn ystod yr amser rydych yn defnyddio gwasanaethau’r Cylch neu yn gweithio gyda ni mewn unrhyw ffordd.

Eich hawliau o dan y Gyfraith Diogelu Data

Dyma eich hawliau parthed unrhyw ddata personol a all gael ei gasglu gan y Cylch Meithrin:

  1. i gael gwybod (am eich hawliau ac am y ffaith bod eich data yn cael ei brosesu).

  2. i gael mynediad at y data personol mae’r Cylch yn ei gasglu (Cais Mynediad at Ddata / Subject Access Request). 

  3. i gywiro’r wybodaeth bersonol mae’r Cylch yn ei gadw.

  4. i ddileu’r wybodaeth bersonol mae’r Cylch yn ei gadw.

  5. i gyfyngu prosesu’r wybodaeth bersonol mae’r Cylch yn ei gadw.

  6. i hygludedd (‘portability’) data (e.e. i symud eich data o un sefydliad i un arall)

  7. i wrthwynebu casglu neu brosesu’ch gwybodaeth bersonol.

  8. mewn perthynas â defnyddio’ch data personol i wneud penderfyniadau awtomataidd.


Ar y pwynt lle cesglir eich data, fe fyddwch yn cael gwybod sut y bydd yn cael ei ddefnyddio.  Ceir y manylion hyn yn y nodyn preifatrwydd hwn hefyd.  Rydym yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod eich data personol yn gywir ac yn gyfredol.  Fe allwch ofyn i ni gywiro neu ddileu unrhyw wybodaeth rydych yn meddwl sy’n anghywir.

Os ydych am ymarfer unrhyw un o’ch hawliau, neu hoffech dderbyn copi o ran neu'r cyfan o'ch gwybodaeth bersonol a gedwir gan y Cylch Meithrin, cysylltwch gyda Pencampwr Data’r Cylch Meithrin.

Heb ragfarnu unrhyw atebion gweinyddol neu farnwrol arall a allai fod gennych, mae gennych yr hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth y DU os ydych o'r farn ein bod wedi torri'r cyfreithiau preifatrwydd data perthnasol wrth brosesu eich data personol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

www.ico.org.uk

01625 545 745 neu 0303 123 1113

Diogelwch eich data

Yn unol â’r gyfraith Diogelu Data rydym yn cynnal systemau sefydliadol a thechnolegol priodol i’n galluogi ni i ddiogelu’ch data personol, yn cynnwys data sy’n cael ei drosglwyddo, storio neu ei brosesu mewn unrhyw ffordd, o’i ddinistrio, golli neu newid ar ddamwain neu yn anghyfreithlon, ac o unrhyw fynediad neu ddatguddiad anawdurdodedig.  Mae’r mesurau hyn yn cynnwys diogelwch cyfrifiadurol a ffeiliau a chyfleusterau wedi’u diogelu.

Pa wybodaeth ydy’r Cylch Meithrin yn ei gasglu amdanoch chi, sut mae’n cael ei ddefnyddio, ac am ba hyd a gedwir y data?

Cesglir data personol gan y Cylch Meithrin er mwyn cynnig y gwasanaethau.  Mae’r wybodaeth hyn yn cael ei gadw’n ddiogel, a’i ddefnyddio er mwyn rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau i sesiynau’r Cylch Meithrin, ac i gysylltu gyda chi yn ôl yr angen yn ystod eich amser yn defnyddio’r gwasanaethau hyn.  Mae unrhyw ddata personol sy’n ymwneud yn uniongyrchol a’r gofal mae eich plentyn yn ei dderbyn, i gydymffurfio â rheoleiddiadau cadw Gwybodaeth Gofal Plant, yn cael ei gadw nes i’r plentyn gyrraedd ei ben-blwydd yn 25 oed.  Mae unrhyw ddata personol ariannol yn cael ei gadw am gyfnod o 7 mlynedd mewn cydymffurfiaeth â rheolau cyfrifo Cyllid a Thollau EM. 

Fe all unrhyw fethiant i ddarparu gwybodaeth effeithio ar eich gallu i ddefnyddio gwasanaethau’r Cylch, ac i’r Cylch ddarparu gwasanaeth ar eich cyfer.

Trosir peth o’r data personol yma yn ddata dienw ystadegol er mwyn mesur ac adnabod tueddiadau yn nefnydd y gwasanaethau.

O dro i dro, mae dyletswydd gyfreithiol gennym i rannu gwybodaeth berthnasol gydag asiantaethau’r llywodraeth megis AGC (yr asiantaeth sydd yn cofrestru, arolygu a sicrhau ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal yng Nghymru), Estyn (yr asiantaeth sydd yn arolygu ansawdd a safonau darparwyr addysg yng Nghymru) a Gwasanaethau Cymdeithasol (lle bo angen).

[Dibynnir ar sail gyfreithiol 1(b) ar gyfer prosesu o dan Erthygl 6 a 2(b) o dan Erthygl 9 o’r RhDDC (GDPR).]  

Manylion Cyswllt y Pencampwr Data

Ceir ddod o hyd i fanylion cyswllt Pencampwr Data’r Cylch Meithrin yma: http://www.meithrin.cymru/chwilio-am-gylch/